MEMORANDWM CYDSYNIAD DEDDFWRIAETHOL

 

BIL YR UNDEB EWROPEAIDD (YMADAEL)

 

 

1.    Gosodir y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hwn o dan Reol Sefydlog (“RhS”) 29.2. Mae RhS29 yn rhagnodi bod rhaid gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, ac y ceir cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru os yw Bil Seneddol y DU yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru at ddiben sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, neu sy’n addasu’r cymhwysedd hwnnw.

 

2.    Cyflwynwyd Bil yr Undeb Ewropeaidd  (Ymadael) (y “Bil”) yn Nhŷ'r Cyffredin ar 13 Gorffennaf 2017. Gellir cael copi o'r Bil yn:

Bill documents — European Union (Withdrawal) Bill 2017-19 — UK Parliament

 

3.    Mae'r Memorandwm yn ymwneud â'r Bil fel y'i cyflwynwyd ar 13 Gorffennaf 2017.

 

Amcan(ion) Polisi

 

4.    Yr amcan polisi sydd wedi'i ddatgan gan Lywodraeth y DU ar gyfer y Bil yw sicrhau bod y DU yn ymadael â'r UE gyda chymaint o sicrwydd, dilyniant a rheolaeth â phosibl.  Mae'n anelu at roi terfyn ar oruchafiaeth cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (“yr UE”) yng nghyfraith y DU ac at drosi cyfraith yr UE fel y saif adeg ymadael yn gyfraith ddomestig. Mae'r Bil hefyd yn creu pwerau dros  dro i'r Gweinidogion wneud is-ddeddfwriaeth i alluogi i gywiriadau gael eu gwneud i'r cyfreithiau na fyddent bellach yn gweithredu'n briodol fel arall ar ôl i'r DU ymadael, er mwyn i'r system gyfreithiol ddomestig barhau i weithredu'n gywir y tu allan i'r UE. Mae'r Bil hefyd yn galluogi cyfraith ddomestig i adlewyrchu cynnwys cytundeb ymadael o dan Erthygl 50 o Gytuniad yr Undeb Ewropeaidd ar ôl i'r DU ymadael â'r UE.

 

Crynodeb o'r Bil

 

5.    Noddir y Bil gan yr Adran dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

 

6.    Mae'r Nodiadau Esboniadol yn nodi barn Llywodraeth y DU fod y Bil yn cyflawni pedair prif swyddogaeth. Mae:

7.    Y cymalau sydd o berthnasedd penodol i faterion datganoledig yw:

 

 

 

Darpariaethau yn y Bil y mae angen cydsyniad ar eu cyfer

 

8.    Nodir y rhestr lawn o gymalau sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) neu sy'n addasu'r cymhwysedd hwnnw yn y tabl yn Atodiad A.  Mae'r Llywodraeth yn nodi bod gan Lywodraeth yr Alban farn debyg am y darpariaethau sy'n gorfod cael cydsyniad deddfwriaethol oddi wrth Senedd y DU.

 

Darpariaethau sy'n addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad

 

9.    Sef:

 

 

 

 

 

Darpariaethau sy'n deddfu at ddiben sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad

 

Cymalau 2 – 6

 

10.Mae'r darpariaethau hyn (yn ddarostyngedig i rai eithriadau) yn trosi'r corff o gyfraith bresennol yr UE yn gyfraith ddomestig ac yn diogelu'r cyfreithiau a wneir yn y DU i roi rhwymedigaethau'r UE ar waith. Mae'r darpariaethau allweddol wedi'u crynhoi isod:

 

 

 

 

 

 

11.Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod angen cydsyniad ar gyfer y darpariaethau hyn. Mae gan y Cynulliad gymhwysedd i ddeddfu rheolau sy'n deillio o'r UE yn gyfraith ddomestig adeg ymadael â’r UE ac i ddiffinio sut y bwriedir dehongli'r gyfraith honno, i'r graddau y mae'r rheolau hynny'n ymwneud ag un neu ragor o bynciau yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Er enghraifft, y pwnc “environmental protection” o dan baragraff 6 o'r Atodlen honno o dan amgylchiadau lle mae'r rheolau sy'n deillio o'r UE sydd i'w deddfu'n darparu ar gyfer diogelu'r amgylchedd.

 

Cymalau 7- 10 ac 16

 

12.Mae'r darpariaethau hyn yn rhoi pwerau i Weinidogion y Goron a Gweinidogion Cymru ddiwygio cyfraith gadwedig yr UE, ac yn cynnwys fel a ganlyn:

 

 

 

 

 

 

13.Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod angen cydsyniad ar gyfer pob un o'r  darpariaethau hyn.  Er bod rhai pwerau'n cael eu rhoi i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n gallu diwygio deddfwriaeth o fewn cymhwysedd y Cynulliad (Cymal 10 ac Atodlen 2), gall Gweinidog y Goron ddal i arfer y pwerau yng nghymalau 7-9 i addasu deddfwriaeth sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad.

 

14.Mae o fewn cymhwysedd y Cynulliad i roi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i fynd i'r afael â diffygion sy'n deillio o ymadael â’r UE o dan amgylchiadau lle mae'r gyfraith sy'n cael eu haddasu'n ymwneud ag un neu ragor o bynciau yn Rhan 1 o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

Cymal 12 ac Atodlen 4 – Darpariaeth ariannol

 

15.Mae'r darpariaethau hyn yn rhoi pwerau i Weinidog y Goron ac awdurdodau datganoledig wneud is-ddeddfwriaeth i alluogi awdurdodau cyhoeddus i godi ffioedd neu daliadau eraill.

 

16.Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod angen cydsyniad ar gyfer y ddarpariaeth hon.  Mae o fewn cymhwysedd y Cynulliad i wneud darpariaeth ar gyfer codi ffioedd gan awdurdodau cyhoeddus, i'r graddau y mae'r awdurdodau hyn/eu swyddogaethau'n ymwneud ag un neu ragor o bynciau yn Rhan 1 o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

Cymal 13 ac Atodlen 5 – Cyhoeddi a rheolau tystiolaeth.

 

17.Mae'r cymal hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyhoeddi deddfwriaeth uniongyrchol gadwedig yr UE gan Argraffydd y Frenhines yn yr Archifau Gwladol. Yn Atodlen 5 ceir darpariaeth bellach ynghylch y rheolau tystiolaeth sydd i fod yn gymwys i offerynnau'r UE.

 

18.Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod angen cydsyniad ar gyfer y ddarpariaeth hon. Mae o fewn cymhwysedd y Cynulliad i wneud darpariaeth ar gyfer cyhoeddi cyfraith gadwedig yr UE a sut y bwriedir dehongli'r gyfraith honno i'r graddau y mae'r gyfraith honno'n ymwneud ag un neu ragor o bynciau yn Rhan 1 o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

Craffu ar bwerau is-ddeddfwriaeth Gweinidogion Cymru

 

19.Trwy roi effaith i Atodlen 2, mae cymal 10 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru sy'n cyfateb i'r pwerau a roddir i Weinidogion y Goron yng nghymalau 7-9 fel y nodir uchod. Nodir y gweithdrefnau ar gyfer craffu seneddol ar y pwerau cywiro hyn yn Rhannau 1 a 2 o Atodlen 7.

 

20.Ar gyfer pob pŵer, mae'r Atodlen yn rhestru cyfres o ddarpariaethau, y bydd eu cynnwys mewn offeryn statudol (“OS”) yn peri bod yr OS yn ddarostyngedig i'r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol yn Senedd y DU. Mae'r Atodlen wedyn yn darparu bod OS Gweinidogion Cymru sy'n cynnwys unrhyw rai o'r darpariaethau hyn yn ddarostyngedig i'r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol yn y Cynulliad. Pan fydd OS sy'n cynnwys y darpariaethau hyn yn cael ei wneud gan Weinidog y Goron a Gweinidogion Cymru ar y cyd, mae'r gweithdrefnau penderfyniad cadarnhaol yn gymwys mewn perthynas â Senedd y DU a'r Cynulliad. Mae unrhyw OS sy'n cynnwys unrhyw rai o'r darpariaethau a restrir yn ddarostyngedig i'r weithdrefn penderfyniad negyddol.

 

21.Mae’r darpariaethau a fydd yn sbarduno'r gofyniad ar gyfer penderfyniad cadarnhaol ar gyfer pob pŵer wedi’u rhestru yn Atodiad B.

 

 

Rhesymau dros wneud y darpariaethau hyn i Gymru ym Mil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

 

22.Mae Llywodraeth Cymru'n cytuno bod angen deddfwriaeth i gynnig eglurder a sicrwydd i ddinasyddion a busnesau wrth inni ymadael â'r UE. Rydym yn derbyn o ran egwyddor yr angen am ddarpariaethau sy'n trosi cyfraith yr UE yn gyfraith ddomestig, a darpariaethau sy'n creu pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth, gan gynnwys pwerau dros dro i alluogi i gywiriadau gael eu gwneud i'r cyfreithiau na fyddent bellach yn gweithredu'n briodol pan fydd y DU wedi ymadael â'r UE. Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno hefyd mai Senedd y DU, yn ddelfrydol, a ddylai wneud y ddeddfwriaeth honno, a hynny ar ran y DU gyfan, gan mai hyn fyddai’n cynnig y mesur gorau o gysondeb a sicrwydd i ddinasyddion a busnesau.

 

 

Safbwynt Llywodraeth Cymru ar y Bil fel y'i cyflwynwyd.

 

23.Ni fydd modd i Lywodraeth Cymru argymell i'r Cynulliad ei fod yn rhoi cydsyniad i'r Bil fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd.

 

24.Nodir safbwynt Llywodraeth Cymru yn y Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddais pan gafodd y Bil ei gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin ar 13 Gorffennaf, ac yn y datganiad ar y cyd a wneuthum â Phrif Weinidog yr Alban yr un diwrnod.

 

25.Mae prif wrthwynebiadau Llywodraeth Cymru'n ymwneud â chymalau 7-9 (sy'n rhoi i Weinidogion y Goron bwerau annerbyniol o eang i wneud rheoliadau, gan gynnwys y gallu i ddiwygio cyfraith ddatganoledig a'r setliad datganoli heb gydsyniad), cymal 10 (sy'n rhoi effaith i Atodlen 2 ac sy'n cyfyngu'n afresymol ar bwerau cywiro Gweinidogion Cymru i gyfraith ddomestig yr UE) a chymal 11 sy'n cyflwyno cyfyngiad newydd ar gymhwysedd deddfwriaethol.

 

Pwerau i Weinidogion y DU a Gweinidogion Cymru ddiwygio cyfraith ddatganoledig

 

26.Mae'r Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion y Goron yng nghymal 7 (i ymdrin â diffygion sy'n deillio o ymadael), yng nghymal 8 (i alluogi cydymffurfio parhaus â rhwymedigaethau rhyngwladol y DU, a chymal 9 (i roi'r cytundeb ymadael ar waith). Byddai'r pwerau hyn yn caniatáu i Weinidog y Goron ddiwygio’n unochrog ddeddfwriaeth sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, gan gynnwys deddfwriaeth lle bo Gweinidogion Cymru'n arfer swyddogaethau. Senedd y DU yn hytrach na'r Cynulliad fyddai'n cyflawni'r rhwymedigaeth graffu wedyn. Gallai'r pwerau hyn gael eu defnyddio hefyd i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006, heb unrhyw ofyniad i gael sêl bendith y Cynulliad.

 

27.Trwy roi effaith i Atodlen 2, mae cymal 10 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru sy'n cyfateb i'r pwerau a roddir i Weinidogion y Goron yng nghymalau 7-9.  Ond mae'r pwerau cyfatebol ar gyfer Gweinidogion gweinyddiaethau datganoledig yn ymestyn yn unig i orchmynion cywiro mewn perthynas â deddfwriaeth sydd wedi'i gwneud gan sefydliadau domestig. Gweinidog y Goron yn unig sy'n cael diwygio deddfwriaeth uniongyrchol yr UE (megis Rheoliadau'r UE) a byddai Senedd y DU yn gorfod craffu arni hyd yn oed pe bai'n ymwneud â phwnc sydd wedi'i ddatganoli i'r Cynulliad.

 

Cyfyngiadau newydd ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad

 

28.Mae Cymal 11 yn cyflwyno darpariaeth newydd a fydd yn golygu y bydd y tu allan i gymhwysedd y Cynulliad i addasu cyfraith gadwedig yr UE mewn ffordd na fyddai wedi bod yn gydnaws â chyfraith yr UE yn union cyn ymadael. Mae hyn yn disodli'r ddarpariaeth newydd yn adran 108A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad ddeddfu'n gydnaws â chyfraith yr UE.

 

29.Oni bai fod darpariaeth ddeddfwriaethol yn cael ei gwneud yn Senedd y DU, mae'n dir cyffredin y byddai cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer materion datganoledig sy'n destun cyfyngiadau'r UE ar hyn o bryd yn aros gyda'r deddfwrfeydd datganoledig ar ôl ymadael, gyda'r deddfwrfeydd hynny'n gallu arfer eu cymhwysedd heb y cyfyngiadau sy'n cael eu gorfodi ar hyn o bryd o ganlyniad i aelodaeth y DU o'r UE.

 

30.Yn natganiad polisi Llywodraeth Cymru Brexit a Datganoli, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin, fe'i gwnaed yn glir ein bod yn barod i negodi fframweithiau'r DU mewn rhai meysydd a oedd gynt yn cael eu cwmpasu gan gyfraith yr UE. Gallai hyn fod, er enghraifft, i helpu marchnad y DU i weithredu'n effeithiol ac atal rhwystrau rhag dod i'r amlwg a allai gyfyngu'n afresymol ar fusnesau, neu i hwyluso rheoli adnoddau amgylcheddol cyffredin.

 

31.Rhaid i'r broses o gytuno lle mae angen fframweithiau, a beth ddylai fod ynddynt, fod yn broses sy'n seiliedig ar gytundeb, ac nid gorfodaeth. Ond mae'r Bil yn cynnig, yn hytrach, set newydd o gyfyngiadau cyfreithiol ar gymhwysedd y sefydliadau datganoledig mewn perthynas â'r materion hyn, ac mae hyn yn gyfan gwbl annerbyniol inni o ran egwyddor.  Ymhellach, wrth gyflwyno cyfyngiad newydd ar gymhwysedd a ddiffinnir mewn perthynas â  ‘chyfraith gadwedig yr UE’, byddai'r Bil yn ychwanegu cymhlethdod ac ansicrwydd at y setliad datganoli ar ôl ymadael â’r UE.

 

32.Mae Llywodraeth y DU wedi awgrymu bod y cyfyngiad a orfodir gan gymal 11 yn drosiannol ei natur, ac mai ei fwriad yw caniatáu amser a lle ar gyfer trafod ac ymgynghori ag awdurdodau datganoledig ynghylch lle mae angen fframweithiau. Er hynny, yn groes i'r gwahanol ddarpariaethau machlud a gynhwysir yn y pwerau Gweinidogol, nid oes unrhyw derfynau amser ar weithrediad cymal 11.

 

33.Ym marn Llywodraeth Cymru, dylid dileu'r cymal o'r Bil.  Rydym yn cynnig y dull gweithredu amgen sy'n parchu datganoli, fel y nodir uchod, ac rydym yn barod i gydweithio'n agos â Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill i gyflawni hyn, er budd y DU gyfan.

 

34.Mae gorfodi'r cyfyngiad newydd hwn ar gymhwysedd y Cynulliad yn golygu canoli diangen ac annerbyniol ar bwerau ar lefel y DU, ac ni all Llywodraeth Cymru gytuno i hyn.

 

35.Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda Llywodraeth yr Alban i gynnig gwelliannau i'r Bil a fydd yn mynd i'r afael â'n pryderon. Caiff y rhain eu cyhoeddi er mwyn llywio'r ddadl ar y Bil yn y Cynulliad, yn San Steffan ac yn ehangach.  Rwyf yn gobeithio gosod memorandwm atodol maes o law, i adlewyrchu'r gwelliannau y bydd Senedd y DU'n cytuno â hwy, sy'n hanfodol os yw Llywodraeth Cymru am allu bod mewn sefyllfa i argymell bod cydsyniad deddfwriaethol yn cael ei roi. 

 

Y goblygiadau ariannol

 

36.Er nad oes unrhyw oblygiadau ariannol uniongyrchol i Lywodraeth Cymru na’r Cynulliad yn deillio o'r pwerau o dan y Bil, bydd goblygiadau ariannol sylweddol i Gymru yn sgil ymadael â'r UE, a hynny yn ei effaith economaidd gyffredinol ac mewn meysydd ariannu sy'n deillio o'r UE, fel y nodir yn Diogelu Dyfodol Cymru.

 

Casgliad

 

37.Mae'r memorandwm hwn yn nodi barn Llywodraeth Cymru am y gofyniad ar gyfer cydsyniad deddfwriaethol y Cynulliad mewn perthynas â Bil yr UE (Ymadael), ac yn cadarnhau na fyddwn mewn sefyllfa i argymell cydsynio oni bai bod y Bil yn cael ei ddiwygio i fynd i'r afael â'n pryderon.

 

 

Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC

Prif Weinidog Cymru

Medi 2017


 

Atodiad A  Cymalau sy'n gofyn am gydsyniad deddfwriaethol y Cynulliad

 

Cymal/

Amserlen

Effaith

 

1

yn diddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ar y diwrnod ymadael

2

yn darparu bod deddfwriaeth ddomestig bresennol sy'n gweithredu rhwymedigaethau cyfraith yr UE yn aros ar y llyfr statud domestig ar ôl i'r DU ymadael â'r UE

3

yn trosi ‘deddfwriaeth uniongyrchol yr UE’ yn ddeddfwriaeth ddomestig adeg ymadael â'r UE er mwyn i ddeddfwriaeth yr UE, lle bo'n briodol, barhau i gael effaith yn sgil ymadael

4

yn sicrhau bod unrhyw rai o hawliau a rhwymedigaethau'r UE sy'n weddill nad ydynt yn dod o fewn cymalau 2 a 3 yn parhau i gael eu cydnabod ac i fod ar gael mewn cyfraith ddomestig ar ôl ymadael

5

yn nodi rhai eithriadau i arbed ac ymgorffori cyfraith yr UE y darperir ar eu cyfer gan gymalau 2-4, gan gynnwys na fydd y Siarter Hawliau Sylfaenol yn rhan o gyfraith ddomestig ar y diwrnod ymadael neu ar ôl hynny.

6

yn nodi sut y caiff cyfraith gadwedig yr UE ei darllen a'i dehongli ar y diwrnod ymadael ac ar ôl hynny

7

yn rhoi'r pŵer i Weinidogion y Goron wneud rheoliadau sy'n diwygio diffygion yng nghyfraith gadwedig yr UE er mwyn iddi barhau i weithredu'n effeithiol ar ôl ymadael 

8

yn rhoi'r pŵer i Weinidogion y Goron wneud darpariaeth mewn rheoliadau ar gyfer cydymffurfio parhaus â rhwymedigaethau rhyngwladol y DU.

9

yn rhoi pwerau i Weinidogion y Goron wneud rheoliadau i roi cytundeb ymadael ar waith

10 ac 

Atodlen 2

yn darparu pwerau i'r gweinyddiaethau datganoledig (gan gynnwys Gweinidogion Cymru) sy'n cyfateb i'r rhai a roddir i Weinidogion y Goron, fel y'u nodir yn Atodlen 2

11 ac

Atodlen 3

yn disodli'r gofyniad presennol na chaiff y Cynulliad ddeddfu ond mewn ffordd sy'n gydnaws â chyfraith yr UE, â darpariaeth newydd a fydd yn golygu y bydd y tu allan i gymhwysedd y Cynulliad i addasu cyfraith gadwedig yr UE mewn ffordd na fyddai wedi bod yn gydnaws â chyfraith yr UE yn union cyn ymadael. Gall eithriadau i'r prawf hwn gael eu rhagnodi gan Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, sy'n gorfod cael eu cymeradwyo gan ddau Dŷ'r Senedd a chan y Cynulliad

12 ac

Atodlen 4

yn rhoi effaith i Atodlen 4 sy'n darparu pwerau mewn cysylltiad â ffioedd a thaliadau, ac sy’n darparu y caiff awdurdodau datganoledig dynnu gwariant i baratoi ar gyfer gwneud offerynnau statudol o dan y Bil

13 ac Atodlen 5

yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyhoeddi deddfwriaeth gadwedig yr UE gan Argraffydd y Frenhines

16 ac Atodlen 7

yn rhoi effaith i Atodlen 7 ar sut y mae'r pwerau i wneud rheoliadau yn y Bil yn ymarferadwy

17

Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol


Atodiad B  Pwerau dirprwyedig:  darpariaethau sy'n gofyn am weithdrefnau penderfyniad cadarnhaol

 

Mae Atodlen 7 yn rhestru cyfres o ddarpariaethau, y bydd eu cynnwys mewn offeryn statudol yn peri bod yr OS hwnnw yn ddarostyngedig i'r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol yn y ddeddfwrfa berthnasol/deddwrfeydd perthnasol.

 

Yn achos rheoliadau sy'n ymdrin â diffygion sy'n deillio o ymadael, y darpariaethau yw'r rhai:

 

(a)  sy'n sefydlu awdurdod cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig,

(b)  sy'n darparu bod unrhyw un o swyddogaethau endid neu awdurdod cyhoeddus yr UE mewn aelod-wladwriaeth yn ymarferadwy yn lle hynny gan awdurdod cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig a sefydlir gan reoliadau o dan adran 7, 8 neu 9 neu Atodlen 2,

(c)  yn darparu bod unrhyw un o swyddogaethau endid neu awdurdod cyhoeddus mewn aelod-wladwriaeth ar gyfer gwneud offeryn o natur ddeddfwriaethol yn ymarferadwy yn lle hynny gan awdurdod cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig,

(d)  yn gorfodi, neu'n ymwneud fel arall, â ffi mewn perthynas â swyddogaeth sy'n ymarferadwy gan awdurdod cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig,

(e)  yn creu, neu'n ehangu cwmpas, trosedd, neu

(f)   yn creu neu'n diwygio pŵer i ddeddfu.

 

Yn achos rheoliadau sy'n galluogi cydymffurfio parhaus â rhwymedigaethau rhyngwladol y DU, y darpariaethau yw'r rhai:

 

(a)  sy'n sefydlu awdurdod cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig,

(b)  sy'n darparu bod unrhyw un o swyddogaethau endid neu awdurdod cyhoeddus yr UE mewn aelod-wladwriaeth yn ymarferadwy yn lle hynny gan awdurdod cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig a sefydlir gan reoliadau o dan adran 7, 8 neu 9 neu Atodlen 2,

(c)  yn darparu bod unrhyw un o swyddogaethau endid neu awdurdod cyhoeddus mewn aelod-wladwriaeth ar gyfer gwneud offeryn o natur ddeddfwriaethol yn ymarferadwy yn lle hynny gan awdurdod cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig,

(d)  yn gorfodi, neu'n ymwneud fel arall, â ffi neu dâl mewn perthynas â swyddogaeth sy'n ymarferadwy gan awdurdod cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig,

(e)  yn creu, neu'n ehangu cwmpas, trosedd, neu

(f)   yn creu neu'n diwygio pŵer i ddeddfu.

 

Yn achos rheoliadau i roi'r cytundeb ymadael ar waith, y darpariaethau yw'r rhai:

 

(a)  sy'n sefydlu awdurdod cyhoeddus yn y  Deyrnas Unedig,

(b)  sy'n darparu bod unrhyw un o swyddogaethau endid neu awdurdod cyhoeddus yr UE mewn aelod-wladwriaeth yn ymarferadwy yn lle hynny gan awdurdod cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig a sefydlir gan reoliadau o dan adran 7, 8 neu 9 neu Atodlen 2,

(c)  yn darparu bod unrhyw un o swyddogaethau endid neu awdurdod cyhoeddus mewn aelod-wladwriaeth ar gyfer gwneud offeryn o natur ddeddfwriaethol yn ymarferadwy yn lle hynny gan awdurdod cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig,

(d)  yn gorfodi, neu'n ymwneud fel arall, â ffi mewn perthynas â swyddogaeth sy'n ymarferadwy gan awdurdod cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig,

(e)  yn creu, neu'n ehangu cwmpas, trosedd,

(f)   yn creu neu'n diwygio pŵer i ddeddfu, neu

(g)  sy'n diwygio'r Ddeddf hon.

 

Mae unrhyw OS sy'n cynnwys unrhyw rai o'r darpariaethau a restrir yn ddarostyngedig i'r weithdrefn penderfyniad negyddol.